Eich iechyd, wedi'i gyfieithu'n glir

Your health, clearly translated

Angen cyfieithiadau iechyd Cymraeg-Saesneg cywir a sensitif? Rwy'n arbenigo mewn darparu cyfathrebu clir a hyderus i ddarparwyr gofal iechyd, cleifion a theuluoedd. Gadewch i ni bontio'r bwlch iaith gyda'n gilydd.

Need accurate and sensitive Welsh-English health translations? I specialise in providing clear, confident communication for healthcare providers, patients, and families. Let's bridge the language gap together.

Gyda phwy rwy'n gweithio?

Who I work with?

Rwy'n darparu gwasanaethau cyfieithu arbenigol ar gyfer iechyd ac ADY yng Nghymru, gan gefnogi sefydliadau sydd angen cyfieithiadau cywir, sensitif a phroffesiynol o'r Gymraeg i'r Saesneg. Mae fy ngwasanaethau wedi'u cynllunio i ddiwallu amrywiaeth o anghenion:

I provide specialist health and ALN translation services in Wales, supporting organisations that need accurate, sensitive and professionally crafted Welsh–English translations. My services are designed to meet a variety of needs:

Darparwyr gofal iechyd

Healthcare providers

Rwy'n cyfieithu adroddiadau clinigol, cynlluniau gofal, asesiadau, gwybodaeth am gleifion a dogfennau amlddisgyblaethol. Gyda phrofiad mewn terminoleg iechyd, llwybrau ADY a phrosesau amlasiantaeth, rwy'n sicrhau bod eich dogfennau'n glir, yn fanwl gywir ac yn gyfreithiol gadarn. 

I translate clinical reports, care plans, assessments, patient information and multidisciplinary documents. With expertise in health terminology, ALN pathways and multi-agency processes, I ensure your documents are clear, precise and legally sound. 

Teuluoedd a Chleifion

Patients & families

Rwy'n helpu teuluoedd i ddeall asesiadau, adroddiadau iechyd, prosesau ADY, hawliau a chynlluniau cymorth trwy gyfrwng Cymraeg neu Saesneg clir a hygyrch. Mae fy nghyfieithiadau'n blaenoriaethu cywirdeb, sensitifrwydd a chyfathrebu sy'n addas i deuluoedd.

I help families understand assessments, health reports, ALN processes, rights and support plans through clear, accessible Welsh or English. My translations prioritise accuracy, sensitivity and family-friendly communication. 

Ysgolion, CADY ac Awdurdodau Lleol

Schools, ALNCo's & Local Authorities

Rwy'n cefnogi lleoliadau addysg gyda chyfieithu arbenigol o Gynlluniau Datblygu Unigol, adolygiadau blynyddol, cynlluniau ymddygiad, mapiau darpariaeth, asesiadau risg ac adroddiadau proffesiynol. Gyda phrofiad ymarferol fel Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol, rwy'n deall gofynion y Côd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

I support education settings with expert translation of IDPs, annual reviews, behaviour plans, provision maps, risk assessments and professional reports. With practical experience as an ALNCo, I understand the requirements of the ALN Code.

 

 

Cyfeithiadau cywir, dealltwriaeth sensitif

Accurate translations, sensitive understanding


Rwy’n darparu cyfieithiadau Cymraeg–Saesneg cywir, sensitif ac arbenigol ar gyfer dogfennau iechyd ac ADY, gan sicrhau bod pob unigolyn, teulu a gweithwyr proffesiynol yn gallu deall y wybodaeth yn glir ac yn hyderus.

I provide accurate, sensitive and specialist Welsh–English translations for health and ALN documents, ensuring every client, family and professional can understand information clearly and confidently.

Dogfennau Iechyd rwy'n eu cyfieithu
Health documents I translate

Rwy'n darparu cyfieithu arbenigol o'r Gymraeg i'r Saesneg ar gyfer ystod eang o ddogfennau sy'n ymwneud ag iechyd ac ADY, gan gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, teuluoedd, ysgolion a thimau amlasiantaeth. Dyma rai enghreifftiau o'r dogfennau rwy'n eu cyfieithu:

  • Adroddiadau meddygol a chrynodebau diagnostig
  • Asesiadau amlddisgyblaethol
  • Taflenni gwybodaeth i gleifion
  • A llawer mwy

I provide specialist Welsh–English translation for a wide range of health and ALN-related documents, supporting healthcare professionals, families, schools and multi-agency teams. Here are some examples of the documents I translate:

  • Medical reports and diagnostic summaries
  • Multidisciplinary assessments
  • Patient information leaflets
  • And much more

Pam mae iaith a diwylliant Cymru yn bwysig?

Why welsh language and culture matter?

Mae cyfieithu o safon uchel o’r Gymraeg i’r Saesneg yn fwy na throsi geiriau – mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl yng Nghymru yn derbyn gwybodaeth iechyd sy’n gywir, yn ystyrlon ac yn briodol yn ddiwylliannol. Mae fy ngwasanaeth yn cael ei lunio gan ddealltwriaeth ddofn o sut mae iaith, hunaniaeth a dewisiadau cyfathrebu yn dylanwadu ar ganlyniadau iechyd.

High-quality Welsh–English translation is more than converting words — it’s about ensuring people in Wales receive health information that is accurate, meaningful and culturally appropriate. My service is shaped by a deep understanding of how language, identity and communication preferences influence health outcomes.